Troedio ar y llafn

CRIB GOCH

  Wil
  Ray

Mae hyn o ddifrif. Crib Goch ym mis Ionawr - cynhesrwydd ar un ochr, ar yr ochr arall, marwolaeth wedi ei rewi ar un hanner a’r hanner arall wedi ei ddadmar. Dyfnder pur.

Dim crampons a bwyell rhew wedi ei fenthyg gan hen ddyn, pren hynafol a gefail dur.  Ddylswn i ‘di troi’n ôl ers sbelan.

“Yndi, mae’n syniad da,” – yn y maes parcio. Hunllef ar y grib. Glasrew yn diferu. Waeth heb i mi gario ‘mlaen achos mae’n well na gorwedd yma fel b’aswn i’n ôl yn y groth.

Nid dewrder mo hyn. Un troed o flaen y llall. Profi bod bob cam yn un cywrain, buddsoddi mewn bywyd fesul cam, yn dal dim yn ôl. Dan ni yno. Anadla. ‘Doli glwt’ dyna sy’n chwyrlio trwy’n meddwl. Anadla. Paid â stopio, dos amdani gan bwyll bach. Nid uffarn o foi mohonof oherwydd dw i yma. Isio crio fel gafr a chau fy llygaid. Anadla. Amdani, gan bwyll bach. Llithro. Gwylio’r rhew sy’n toddi’n disgyn yn ddiog i ddyffryn dwfn. Na. Paid ag edrych, gafael mewn ffracsiwn o eiliad a dos yn dy flaen. Paid ag edrych yn rhy bell ymlaen. Paid â chasau’r rheini sydd yn eu crampons a’u celfi newydd sbon, yn edrych arna i’n feirniadol, . Gwena a nodia gan ddwyn perswad arnyn nhw, yna o’ ‘ma mor fuan a fedri di heb ruthro’r un cam. Hunllef….hunllef. Yna’r pás. Yna hunllef arall. Yna mae drosodd, a does neb o gwmpas, felly dw i’n syrthio i nglinia’ yn niwl rhewllyd Garnedd Ugain ac yn cogio bach chwilio am rhywbeth yn fy mag, ond mewn gwirionedd gweddio ydw i, yn ysgwyd, yn gaddo dod at fy nghoed.

Yna mae’r llwybrau yn dod ynghyd ar y copa a dw i’n nôl, yn uffarn o foi, heb sylweddoli mai delwedd o ddyn ydw i.