Dros bedwar mis, bron.

DŴR. DILYW.

  Llinos
  Ray

Dw i’n gweld dim, dim ond clywed ambell ddafad o du mewn i lysnafedd y niwl trwchus sy’n cuddio tri chwarter Cnicht.

Heddiw, mae corsydd Croesor dan eu sang. Dim gwahaniaeth rhwng ffos a’r ffordd gul at yr hen adeilad chwarel.  Mae’r llwybr yn dod yn rhaeadr dan fy nhraed. Dwylo’n troi’n gerrig, fy wyneb yn merwino gan ddagrau di-baid y glaw a bob diferyn anghynnes yn fferru’r ddwy foch. Mae’n dechrau troi’n genllysg. Dw i rhwng dau feddwl. Troi tuag adra ‘ta chwilio am yr unig loches i’w gael ochr yma i’r Arddu? E’lla stopith hi.

Dw i’n cyrraedd y glydfan, ond yn hytrach na mochel yn y babell gerrig hon, mae’r ci a fi’n setlo am y garreg drws lythrennol, heb fentro i mewn. Dydi llaith ddim yn dod iddi. Dw i’n socian.

Wrth fyfyrio am y mynyddoedd cyfarwydd – ond anweledig – o’m cwmpas – 360 gradd – dw i’n penderfynu eistedd yno am ennyd. Ar ddiwedd y dydd, glaw ‘di glaw.

A dw i adra’n barod.