Gogledd Cymru
DRINGO GAEAF
Dafydd
Calum
Rhew glas anhygoel, eira solad, awyr las a thymheredd dan rewbwynt, dyna yw dringo gaeaf yng ngogledd Cymru.
Neu’n hytrach brwydro drwy luwchfeydd o eira powdrog, cripio a chrafu creigiau wedi eu rhewi’n gorn, cwffio yn erbyn llystyfiant caled, neu wynt ffyrnig yn dy waldio. Pa fo bynnag brofiad gei di, mae wastad yn un heb ei ail, yn annisgwyl ac yn fythgofiadwy ar gefndir o dirlun o harddwch unigryw llawn hanes a chwedlau.
Y cyngor gorau
Cwm Idwal – llwybrau yn amrwyio o rampio Gradd 2 i’r llwybr mwyaf eithafol yng ngogledd Cymru – Coluddyn Crog Diafol Twll Du
Mae Clogwyn Du ymhen y Glyder yn berffaith ar gyfer dringo rhew hynod o dechnegol
Mae Clogwyn y Garnedd ar yr Wyddfa yn wych ar gyfer cafnau eira a rhew clasurol



