Fel rhyw fwystfil sgitsoffrenig mae
Wil
Daf Nant
Dan ni’n ei grwydro, ac am benwythnos yn troi i mewn i’r anghenfil hwn. I ni, dan ni adra’n barod, o’r mynyddoedd draw fan’cw, ond mae’r newydd-ddyfodiaid yn gwneud i ni weld popeth o’r newydd a’u anghrediniaeth a’u hoffter dryslyd ohono yn ein gwneud yn benysgafn braidd. Ac er hynny, mae ein gwreiddiau ni yn golchi dros y cachu corfforaethol ac yn distewi popeth. Mae Gogledd Cymru yn cau’n dynn am ddiwylliant y caffis corfforaethol ac yn ychwanegu llond awyr o gymylau dros gynefin y bioden fôr a’r tywod dan ein traed, ac mae popeth ffals a’r pethau plastig yn diflannu i bellafoedd byd.
Mae’r coediwr Nick yn gwneud ei gartref yn sedd y barbwr hipster yn gwneud synnwyr. Yn ogystal â’r band reggaeton o Feneswela efo’u cynulleidfa capiog. Y bandiau pres a’r corau a’r nosweithiau tecno oer. Yr emynau sy’n mynd i lawr y lôn goch efo casgen o gwrw wrth y piano a’r disgo yn y cefn. Grace Jones yn noeth, mwy neu lai, a Mick Artistic yn canu caneuon am ddeilach yn sownd i’w weipars car. Swigod ymhobman, dawnsiwyr tân, Prosecco yn y bore a darlith am fancio dros y we. Mae popeth yn gwneud synnwyr rhywsut.
Mae’n anhebygol dros ben ac yn ddeubegwn, ond dan ni’n ei dallt hi, ac mae’r balchder ynddon ni, a’r ni a nhw dragwyddol, sydd fel arfer yn brifo i’r byw gan anghytbwysedd yn hollol gytbwys ac yn gwneud synnwyr.
Naci, mwy na hynny – mae’r bwystfil hwn sy’n tyfu yma bob blwyddyn, gyda phob copa walltog a’r sawl calon sy’n pwmpio ynddo yn ein bwydo ni ac yn yr adlewyrchiad yn ei fil o lygaid bychan, dan ni’n gwneud synnwyr.



