Afon Conwy
MAE’R GLYN
Rob Litherland
Blue Bear Photography
Dw i wrth fy modd yn mynd am anturiaethau mewn llefydd hardd a gwyllt. Mae’r Glyn ar yr afon Conwy bum munud o’m cartref, dw i wedi bod yn ei badlo am bron i bymtheg mlynedd, gan fwyaf o’r amser antur fach hwyliog yw hi ond weithiau gall y 3km honno deimlo fel antur anferth.
Muriau ceunentydd serth, dŵr cyflym wedi ei gyfyngu gyda chywasgiad na ellir ei ragweld a hwnnw’n ymchwyddo; mae’n le cyflawn a bygythiol, ond yn un o’r ceunentydd harddaf dw i erioed wedi padlo drwyddi. Mae rhediadau ar ddŵr uchel yn gallu teimlo fel brwydr; tra mae tynnu lluniau o furiau’r geunant yn gallu bod yn antur gwbl wahanol!
Mae glaw yn wych i mi, gan fy mod am gael cyfle am gaiacio gwych; y mae, er hynny, yn adio at yr her o dynnu lluniau!



